{I'w galon frwysgedic yr honn oedd yn caru Morfydd}
1 Ie galonn benn-gronn bach
2 ddi eres chwaen ddi eiriach
3 A fu dryll fwy ei drallawd
4 no thydy y wehydd-dy gwawd
5 Palmeres mynwes a'i maeth
6 penwyn gehyryn hiraeth
7 Cron forwyn rhy derwyn daer
8 Crug-lwyth meddyliau croew-glaer
9 llonydd fydd fodd difocsach
10 llenwi y bydd llun wy bach
11 honn a bair cadair ceudawd
12 henw ymddiffrwys gynnwys gwawd
13 Rhuad gwyllt ddyn rhy od gwael
14 Rhy hyf yn serchoc rhy hael
15 Ystyried windraul deulu
16 Y ddiod fedd ddaed fu
17 honn a wna anrhegfa rhawg
18 hwyl berw llifw hael byrrllawiawg
19 Palmer bydr pwl marw bidin
20 Paeled oer heb pil y din
21 A rhylew ar heolydd
22 Wyneb oer yno ni bydd
23 heb a'i cael heibio ciliwyf
24 dolur a'i clau wneuthur clwyf
25 yr ail ydyw ar loew darf
26 yno dros wefl fefl ar farf
27 Trydydd nid adnebydd neb
28 troi y dyn trwy odineb
29 I chwenychu chwaen vchel
30 dwyn y dyn gwelwyn dan gel
31 Hynny y gwraidd ei heiniau
32 hen-swydd fawr hynny sydd fau
33 Nid mwy rhyfel dan geli
34 dyn no mil myn duw no mi
35 Yn caru nessau serch
36 Er anfodd pawb yr vn-ferch
37 mygr wrthych llewych llywy
38 pefr feinwyr pawb a wyr pwy
39 mygr hyloew magwyr hoewloer
40 morfudd deg ei deurudd dioer
41 hoen teg pan fai huan taer
42 Ar fronn olygon loew gaer
43 hael-wen leddf heilwin lwyddferch
44 Heulwen a seren y serch
dd' ap Gwilym